Y rhai a'i canlynodd efe
Trwy'r ffauau a'r
fflamau'n ddi-grỳn,
Y rhai gynt a nofiasant i'r nef
Mewn afonydd o'u twymn waed eu hun,
Sy'n awr yn cael myned yn mlaen
Yn ëofn at orsedd yr Iôn;
A chanu bob amser y maent
Ganiadau newyddion i'r Oen.
Ddaw syched, na newyn, na phoen,
Na gofid, na galar, na chlwy',
Nac anwyd, yn nheml yr Iôn,
Na gwrês idd eu blino byth mwy:
Mae yno adenydd fy Iôn
Yn taenu fel nefoedd ar lêd,
Yn cuddio priodferch yr Oen:
O! f'enaid, i fyny ehêd.
'R wy'n teimlo rhyw hiraeth a chwant
Gwel'd dattod fy mhabell o'i lle,
A hedeg yn union i bant,
Fel 'deryn, i ganol y ne';
A neidio i mewn yno i blith
Y dyrfa sy â'u gwisgoedd yn wỳn,
A chanu i'm Harglwydd i byth
Fu farw ar Galfari fryn.
William Williams 1717-91
Tonau [88.88D]: gwelir: Rhan I - Mae'r lle sancteiddiolaf yn rhydd Rhan II - Y goleuni sy'n ninas ein Duw Rhan III - Angylion seraphiaid a saint Rhan IV - Wrth gofio dichellion y ddraig |
Those who followed him
Through the dens and the
untrembling flames,
Those who formerly swam to heaven
In rivers of their own warm blood,
Are now getting to go forward
Boldly to the Lord's throne;
And singing all the time they are
New songs to the Lamb.
No thirst, nor hunger, nor pain shall come,
Nor grief, nor lamenting, nor sickness,
Nor cold, in the temple of the Lord,
Nor heat to weary them ever again:
There the wings of my Lord are
Spreading wide like heaven,
Hiding the bride of the Lamb:
O my soul, fly up!
I am feeling some longing and yearning
To see my tent's undoing from its place,
And fly straight off,
Like a bird, to the centre of heaven;
And leap in there in the midst
Of the throng that are clothed in white,
And sing to my Lord forever
Who died on Calvary hill.
tr. 2023 Richard B Gillion
|
|